Mae clywed newydd am y gwaed Yn llifo ar Galfari, Yn un o'r pethau mwya'u gwerth A fedd ein daear ni. Fe ddaw'r blynyddoedd pur i ben Pan d'wyno efengyl gras, Fel haul dysgleirwyn yn y nen, Yn gylch i'r ddaear las. Ac mi ddysgwylia'r hyfryd awr, Boreuddydd Jubili; Pan ddelo holl dylwythau'r byd I deithio i Galfari. Mae clywed newydd am ei waed Yn llifo ar Galfari, Yn fwy na phob rhyw fraint a gaed Ar hyd ein daear ni. Fe ddaw'r blynyddau pur i ben, Pan t'w'no efengyl gras, Fel haul dysgleiriol yn y nen, Tros wyneb daear las. Ac mi ddysgwylia'r hyfryd awr, Boreuddydd Jubili, Pan ddelo holl dylwythau'r llawr I garu'n Harglwydd ni. Mae clywed newydd am ei waed Yn llifo ar Galfari, Yn un o'r pethau mwya' gaed Ar hyd ein daear ni. Fe'i cār y Negroes tywyll du E'n hyfryd maes o law, Pan d'wyno gwawr efengyl gras I dir yr India draw. Dysgwyl yr ydwyf wel'd yr awr, Boreu-ddydd Jubili, Pan ddelo holl derfynau'r llawr I garu'n Harglwydd ni.William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Am Iesu Grist a'i farwol glwy' Boddlonodd pawb trwy'r nef a'r llawr Fy Iesu Brenin nef a llawr Y'mhlith holl ryfeddodau'r nef |
News is heard about the blood Flowing on Calvary, As one of the most valuable things Our earth possesses. The pure years are coming about When the gospel of grace shall shine, Like a brilliant sun in the sky, Around the blue-green earth. And I am watching delightfully now, For the morn of Jubilee Day; When all the tribes of the world shall come To travel to Calvary. News is heard about his blood Flowing on Calvary, Greater than any kind of privilege that is had Along our earth. The pure years will come to pass, When the gospel of grace will shine, Like the radiant sun in the sky, Across the face of the blue-green earth. And I await the delightful hour Of the morn of Jubilee Day, When all the tribes of earth come To love our Lord. Hearing news about his blood Flowing on Calvary, is One of the greatest things found Along our earth. The dark black Negroes shall love Him delightfully soon, When the dawn of the gospel of grace Shines to yonder India. Expecting I am to see the hour, Of the morn of the day of Jubilee, When all the ends of the earth below shall Come to love our Lord.tr. 2012,24 Richard B Gillion |
|